Mae’r Neuadd Farmor yn ardal drawiadol a hyblyg ar lawr cyntaf Neuadd y Ddinas. Gyda rhes o golofnau marmor Sienna a ffenestri gwydr lliw addurnol, mae’r ystafell yn gartref i lawer o eitemau o gasgliad celf Neuadd y Ddinas.
Mae’r ystafelloedd hyn yn ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd a seminarau, neu ystafelloedd ymneilltuo ar gyfer cynadleddau neu swyddfeydd ar gyfer swyddogion mewn digwyddiadau mwy o faint.
Mae’r nenfwd addurnol hardd yn wledd i’r llygad ym mhob math o ddigwyddiad, ond gallwch hefyd gynnal cyflwyniadau sy’n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf yn yr Ystafell Ymgynnull.
Mae’r Prif Cyntedd yn fynedfa fawreddog i ymwelwyr, gyda derbynfa, seddau cyffyrddus a dwy set o risiau’n arwain i fyny at y Neuadd Farmor.
Mae Neuadd Ferrier yn lleoliad hwylus a hyblyg ar gyfer digwyddiadau ar lawr cyntaf Neuadd y Ddinas, ac mae wedi’i henwi ar ôl un o gyn Arglwydd Feiri Caerdydd.
Ar y llawr daear, mae mynediad y Neuadd Isaf drwy’r Brif Cyntedd. Saif cyfres o golofnau godidog ar hyd yr ystafell, sy’n ofod hyblyg ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau.
Lleolir Siambr y Cyngor o dan gromen fawreddog Neuadd y Ddinas, gan sicrhau amgylchedd crand gyda ffenestri gwydr lliw godidog, panelau o dderw wedi’i gerfio a cholofnau marmor.