Ynghylch

Cyflwyniad

Adeiladwyd Neuadd y Ddinas yn arddull Seisnig y Dadeni ac fe’i hagorwyd ym 1906, flwyddyn ar ôl i Gaerdydd ddod yn ddinas.  O fewn y muriau allanol ysblennydd sydd wedi’u cerfio o garreg Portland ceir ystafelloedd trawiadol sy’n addas ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau.  Mae’r adeilad crand hwn yn cynnig lleoliad mawr ar gyfer digwyddiadau mawr, ond mae ystafelloedd llai hefyd ar gael ar gyfer grwpiau bach a sesiynau syndicâd.

Fodd bynnag, os edrychwch y tu hwnt i ysblander mewnol ac allanol yr adeilad, fe welwch fod Neuadd y Ddinas yn cynnig systemau cyfathrebu a chynadledda technolegol o’r radd flaenaf.

Mae Neuadd y Ddinas yn hyblyg ar y naw ac yn aml yn cynnal digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol mawreddog a fynychir gan aelodau o’r cyfryngau o bedwar ban byd.  Ymysg y rhain roedd cyfarfod y Cyngor Ewropeaidd ym 1998 a fynychwyd gan 15 o benaethiaid gwladwriaeth ac, yn ddiweddarach, trawsnewidiwyd Neuadd y Ddinas yn bencadlys Rali Prydain Fawr.

Mae Neuadd y Ddinas wedi’i trwyddedu ar gyfer seremonïau priodas, gyda’r awyrgylch unigryw yn ei gwneud yn ddewis arbennig ar gyfer priodasau, digwyddiadau teuluol eraill, dathliadau arbennig a lletygarwch corfforaethol.

Yn Neuadd y Ddinas byddwch yn siŵr o gael croeso cynnes, ynghyd â gwasanaeth a chymorth gwych gan ein Tîm Digwyddiadau. Ar gyfer cynadleddau, confensiynau a digwyddiadau mawr, gellir cynnig rhagor o gymorth, megis archebu llety a rhaglenni cymdeithasol, drwy Wasanaeth Twristiaeth y Cyngor a’n partneriaid, Caerdydd ar y Cyd a Chymdeithas y Gwestywyr.