Ein partneriaid

 

Castell Caerdydd

Mae tyrrau cyfareddol Castell Caerdydd yn celu pensaernïaeth unigryw, décor gwych a cheinder gogoneddus. Mae nifer o’r ystafelloedd hynod hyn ar gael i’w llogi ac maent yn berffaith ar gyfer digwyddiadau corfforaethol, gwleddoedd, partïon preifat, cyfarfodydd busnes, lletygarwch ac adloniant o bob math. Gan gydweithio â’n harlwywyr mewnol, cynigir gwasanaeth wedi’i deilwra i fodloni eich holl ofynion.

www.castell-caerdydd.com

Eglwys Norwyaidd

Mae Canolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd yn un o’r adeiladau pwysicaf ym Mae Caerdydd, gyda golygfeydd panoramig dros y glannau.  Gynt yn Eglwys ar gyfer Morwyr Norwyaidd, mae’r adeilad eiconig yn dyddio’n ôl i’r chwyldro diwydiannol. Dociau Caerdydd oedd allforiwr glo mwyaf y byd yn y cyfnod hwnnw.  Erbyn hyn mae’n lleoliad delfrydol ar gyfer bendithio priodasau a derbyniadau priodas, a gall Ystafell Grieg groesawu rhwng 60 a 90 o bobl.

 

www.norwegianchurchcardiff.com

Y Plasty Caerdydd

Y Plasty ar Richmond Road oedd preswylfa swyddogol Arglwydd Faer Caerdydd. Dyluniwyd y Plasty gan Habershon a Fawckner ac fe’i godwyd ym 1896 ar gyfer James Howell, perchennog siop Howells. Os ydych chi’n edrych am y lleoliad perffaith ar gyfer priodas neu gynhadledd, bydd yr adeilad rhestredig Gradd II hwn yn siŵr o blesio.

 

www.mansionhousecardiff.com