Mae Neuadd y Ddinas yn hygyrch iawn i gadeiriau olwyn. O’r stryd, mae lifft ar gyfer cadeiriau olwyn yn cynnig mynediad i’r llawr gwaelod ac mae lifft pellach yn cynnig mynediad i’r llawr cyntaf. Mae’r llawr gwaelod a’r llawr cyntaf yn hollol wastad, ac eithrio Siambr y Cyngor, lle mae grisiau yn arwain at yr ystafell.
Mae toiledau hygyrch ar gael i ymwelwyr anabl.