Hanes

Saif Neuadd y Ddinas Caerdydd yn un o ganolfannau dinesig gorau Ewrop.

Y neuadd Edwardaidd ysblennydd hon yw’r mwyaf trawiadol o blith yr adeiladau gwych hyn ond, mewn gwirionedd, dyma oedd y pumed adeilad i gael ei ddefnyddio fel canolfan Llywodraeth leol.  Nid ydym yn gwybod llawer am ‘Neuadd y Dref’ wreiddiol Caerdydd, ond safodd yr ail Neuadd yng nghanol Heol Eglwys Fair cyn iddi gael ei disodli yng nghanol y ddeunawfed ganrif.  Adeiladwyd y bedwaredd Neuadd ar ochr orllewinol Heol Eglwys Fair ym 1853 a chafodd ei defnyddio hyd nes i Neuadd y Ddinas gael ei hagor ym 1904.

Mae’r adeiladau Dinesig yn sefyll ym Mharc Cathays, a fu’n gartref i blasty Sioraidd byrhoedlog (1812-25) a adeiladwyd ar gyfer Ardalydd Cyntaf Bute. Gwerthwyd y 59 erw o dir i’r dref gan y teulu Bute ym 1898 am £159,000. Gwnaed cynlluniau am adeiladau newydd, a Neuadd newydd y Dref (nid oedd Caerdydd yn Ddinas ar y pryd) fyddai’r canolbwynt.

 

Ysbrydolwyd y dyluniad gan bensaernïaeth y Dadeni Seisnig a Ffrengig, ond mae hefyd yn arddangos hyder y cyfnod Edwardaidd, pan oedd ffyniant Caerdydd o’r diwydiant glo yn ei anterth.

 

Tŵr y cloc, sy’n 194 troedfedd o uchder, yw prif nodwedd Neuadd y Ddinas, ac mae draig Cymru, a gerfiwyd gan HG Fehr, i’w gweld ar ben y crymdo.

Tŵr y Cloc

Tŵr y Cloc yw nodwedd bensaernïol fwyaf adnabyddus Neuadd y Ddinas. Mae’n drawiadol ac yn amghymesurol, ac yn un o dirnodau mwyaf poblogaidd Caerdydd.

 

Mae ffrâm y cloc, sy’n cynnwys y mecanwaith, yn 5’10” o hyd ac wedi’i gwneud allan o ddarn mawr o haearn bwrw, sy’n golygu ei bod yn gadarn iawn. Mae cynllun ‘disgyrchiant’ â thair coes i ollyngiad y cloc, ac mae wedi’i wneud o fetel drylliau. Dengys yr amser ar bedwar deial goreurog sy’n 12 troedfedd o ran lled, un ar bob un o wynebau’r tŵr.

 

Mae’r clychau eu hunain wedi’u gwneud o gopr pur a thun, ac mae arwyddair wedi’i gerfio ar bob un ohonynt. Mae’r gloch sy’n canu ar yr awr, ynghyd â’r clychau sy’n canu ar yr ail a’r pedwerydd chwarter, yn cynnwys arwyddeiriau Cymraeg. Mae’r gloch gyntaf a’r drydedd gloch yn cynnwys arysgrif Saesneg.

 

Mae’r arwyddeiriau fel a ganlyn:
– Cloch yr Awr “Y gwir yn erbyn y byd”
– Chwarter Cyntaf “I mark time, dost thou?”
– Ail Chwarter “Duw a phob daioni”
– Trydydd Chwarter “Time conquers all and we must time obey”
– Pedwerydd Chwarter “A gair Duw yn uchaf”

 

Uwchben y portico mae prif ffenestr Siambr y Cyngor.  Y naill ochr i hon mae grwpiau o gerfluniau coffaol yn cynrychioli tair afon y Ddinas, sef y Taf, y Rhymni a’r Elái, yn llifo i’r môr.  Fry ar ochr orllewinol y ffasâd mae grŵp yn cynrychioli ‘Gwyddoniaeth ac Addysg’ gan D McGill.  Ymysg y grwpiau eraill mae ‘Cerddoriaeth a Barddoniaeth’ a ‘Masnach a Diwydiant’ gan Paul Montford, ac ‘Undod a Gwladgarwch Cymru’ gan Henry Poole.