O Giniawau a Derbynfeydd i Freciniawau Busnes a Lletygarwch Corfforaethol, mae prydau moethus Neuadd y Ddinas yn tynnu’r dŵr i’r dannedd. Mae ein ystafelloedd yn cynnig y cefnlen perffaith ar gyfer eich Swper Mawreddog, Seremoni Wobrwyo neu Barti Cwmni. Dewiswch yr Ystafell Ymgynnull ar gyfer swper i 500 neu’r Neuadd Farmor i roi cefnlen urddasol ar gyfer swper i 150.
Gall ein cogyddion arbennig ein hunain gynnig cyngor a dewis o fwydlenni dibynadwy, neu greu bwydlen benodol i weddu eich digwyddiad, thema, cyllideb a chwaeth cleientiaid.
Bydd ein tîm wastad wrth law i sicrhau bod eich cinio neu ddigwyddiad yn rhedeg yn esmwyth a bod pob gwestai yn mwynhau’r digwyddiad arbennig.