Siambr y Cyngor

Lleolir Siambr y Cyngor o dan gromen fawreddog Neuadd y Ddinas, gan sicrhau amgylchedd crand gyda ffenestri gwydr lliw godidog, panelau o dderw wedi’i gerfio a cholofnau marmor.

Fe’i cynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer cyfarfodydd y Cyngor, ac mae sawl dadl frwd wedi’i chynnal yma dros y blynyddoedd. Heddiw, gellir ei defnyddio am gynadleddau i’r wasg, trafodaethau a gaiff eu darlledu, cyfarfodydd a seremonïau priodas.

Mae gan y lleoliad drwydded ar gyfer seremonïau priodas.

Mae mynediad i gadeiriau olwyn wedi’i gyfyngu i’r seddau ar y lefel isaf oherwydd y grisiau.

 

Golwg 360

Capasiti:

Seddau ar gyfer 94 o westeion a seddau ychwanegol ar gyfer 50 yn y galeri cyhoeddus.

Dimensiynau:

Uchder: 12.2metr

Cyfleusterau’n cynnwys:

Offer pleidleisio, meicroffonau ac ystafell newid breifat gyfagos.

Lawrlwythiadau sydd ar gael
DYSGWCH AM EIN HANES
Dysgwch fwy am hanes yr ystafell hon