Rydym am i chi ddewis Caerdydd
Prifddinas, hygyrch llawn cymeriad a chysylltedd. Mae Caerdydd yn ddinas ar i fyny, yn yr 8ed safle yn y DU fel prif gyrchfan ar gyfer confensiynau, cynadleddau a chyfarfodydd busnes. Gyda dewis amrywiol o westyau sy’n gweddu pob cyllideb, mae Caerdydd yn cynnig profiad gwych a gwerth anhygoel am arian.
Mae Swyddfa Confensiwn Caerdydd yn cynnig gwasanaeth penodol AM DDIM i’ch helpu chi i drefnu eich digwyddiad busnes yng Nghaerdydd, prifddinas Cymru.
Paratoi Dogfennau Cynnig a Chyflwyniadau
Rydym am i chi ddod i Gaerdydd. Er mwyn eich helpu chi i ddod i benderfyniad byddwn yn paratoi cynigion unigol neu yn ymweld â chi i roi cyflwyniad.
Gwasanaeth Archebu Cynadleddau a Llety Ar-lein
Ar gyfer digwyddiadau gyda dros 100 o fynychwyr, gallwn greu gwasanaeth archebu ar-lein penodol, drwy gyfrwng PassKey, gyda’ch logo chi arno. Y cyfan sydd yn rhaid i fynychwyr ei wneud yw mewngofnodi, dewis o blith ystod o westyau a phrisiau sydd ar gael ac archebu ar-lein. Mae’n ysgafnhau’r baich o ddod o hyd i lety.
Cludiant – Cynigion Arbennig
Gallwn drefnu cynigion cludiant arbennig gyda’n partneriaid First Great Western a Trenau Arriva Cymru. Gallwn hefyd gynnig manylion trafnidiaeth gyhoeddus i Gaerdydd ac oddi yma yn ogystal ag o fewn Caerdydd a chwmnïau hurio preifat.
Teithiau / Rhaglenni Cymdeithasol
Er mwyn rhoi mwy o fwynhad i’ch cynrychiolwyr a’ch partneriaid yn ystod eu harhosiad, mae syniadau gennym ar gyfer teithiau lleol i ddwyn sylw at yr amrywiol atyniadau sydd yng Nghaerdydd a’r cyffiniau.
Gwasanaethau Cymorth
Os oes angen cyngor ar wasanaethau penodol arnoch, megis adloniant, llwyfannu neu oleuo, gallwn gynnig rhestr o gyflenwyr.
Gwybodaeth i gynrychiolwyr
I alluogi cynrychiolwyr i wneud y mwyaf o’u diwrnod yng Nghaerdydd, gallwn gynnig llyfrynnau yn tynnu sylw at yr hyn sydd i’w weld a’i wneud. Gallwn hefyd gynnig gwasanaeth cofrestru cynrychiolwyr ar-lein. Amrywiol fathau o gynrychiolwyr, pecynnau a ffioedd? Dim problem. Mae nifer o becynnau ar gael ar delerau cystadleuol.
Addewid Caerdydd
Mae modd ei gymhwyso ar gyfer rhai digwyddiadau mawr – lle bydd % o restr eiddo’r ddinas yn cael ei gadw ar gyfer trefnydd y digwyddiad i’w dibenion hwy ar gyfraddau rhesymol.
Cymhorthdal
Ar gyfer rhai digwyddiadau mae’n bosib y gallwn helpu i greu cymorth ariannol ar gyfer eich digwyddiad drwy weithio gyda’n lleoliadau a Chymdeithas Gwestywyr Caerdydd ar daliadau comisiwn uwch a bargeinion contra.
Cysylltiadau Cyhoeddus
Os oes angen delweddau o’r ddinas arnoch er mwyn helpu i werthu’r lleoliad, cysylltwch â ni