Arlwyo

 

O freciniawau busnes i ddiodydd cyn pryd gyda’r nos, cynadleddau i swperau mawreddog, gall Neuadd y ddinas ddarparu ar gyfer eich holl anghenion. Gall ein cogyddion arbennig deilwra bwydlenni ar gyfer eich digwyddiad a’ch cyllideb a darparu ar gyfer pob gofyn dietegol.

Rhowch alwad i ni ar (029) 20 871736 i drafod eich anghenion yn llawn.

Esiamplau o ddewisiadau bwydlenni isod:

 


Cwrs Cyntaf


Cawl Cennin a Chig Oen Traddodiadol gydag Chrwton Caws Caerffili arno

Rhosyn o Eog wedi ei Fygu gyda Dail Berwr, Mayonnaise Bara Lawr a Chocos Penclawdd picl

Terîn Cyw Iâr a Llysiau gyda Letys Frisee, Pancetta crimp a Betys Treftadaeth Picl wedi eu gweini â Diferion Pupur Coch

Velouté Gwrd Cnau Menyn mewn Madarch wedi eu grilio ac Olew Garlleg.

Tarten Cneuen Ffrengig a Chaws Gafr Pantysgawn gynnes wedi ei gweini ag Enllyn Betys a Pherlysiau Micro mewn Pesto (ll)

Ffiled Cyw Iâr o’r Mynydd Du wedi ei Fygu ar Bruschetta gyda Thomatos Bach, Oregano ar Letys Berwr gyda Diferion o Olew Olewydd

Eog Poeth wedi ei Fygu a Thŵr Cranc gyda Hufen Sawrus Marchruddygl a Jeli Ffigys ar wely o Lysiau Micro.

Letysen Fechan wedi ei llenwi â Chorgimwch a Chynffon Cimwch yr Afon gyda Saws Marie Rose Sbeislyd a Diferion Pupur Coch

Cacen Bysgod Penfras a Phancetta gyda Chylchoedd Calamari wedi eu gweini ag Enllyn Tomato

Ffiled Eog o’r Alban wedi ei Rostio ar Dderw ynghyd â Melon Ogen a Hufen Eirin Mair


Prif Gwrs


Ffiled o Ferfog Môr gyda Ffenigl brwysiedig a thafell grimp o ham Sir Gâr

wedi ei weini â saws o win Gwyn Cymreig, menyn lemwn a chennin syfi

Ffolen frwysiedig o Gig Oen Cymreig mewn Rhosmari a Garlleg wedi ei weini mewn Saws Gwin Coch Cyfoethog ynghyd â Thatws Stwnsh

Ystlys o Borc Rhost gyda Gwrd Cnau Menyn Cajun wedi ei weini â Manion Craclin gyda Saws Gwin Gwyn a Saets.

Ffiled o Eog wedi ei lapio mewn Pancetta wedi ei weini â saws Gwin Gwyn a Berw’r Dŵr

Ffiled Combác dan Sglein Oren a Surop Masarn wedi ei weini â Sudd Teim

Brisged Eidion wedi ei Rostio’n Araf gyda Saws Port Sbeislyd a Thatws Mâl Perlysieuog

Ffiled o Eog wedi ei weini â Chocos Penclawdd wedi Ffrio a Ffenigl y Môr wedi Ffrio’n Sydyn

Gweinir â Saws Mwstard Melys

Ffolen o Gig Oen Cymreig â Mêl wedi ei Rostio gyda Phiwrî Winwns a Sglodion Panas

Draenog y Môr Rhost wedi ei weini â Saws Bara Lawr a Menyn Oren

Brest Combác Rhost wedi ei weini â Menyn Tryffl Ffrengig, Merllys a Berwr

Tair asen o Oen Cymreig wedi eu trwytho mewn Mêl a Medd wedi eu gweini â Sudd Cwrw Brains a Wystrys

Ffiled o Eog wedi ei weini â Chiwcymber a Saws Llysiau’r Gwewyr a Hedyn Mwstard

Ffiled Combác wedi ei lenwi â Stwffin Almwns a Phimento Coch wedi ei weini â Saws Paprica a Brandi

Llwyn o Gig Oen Cymreig Caponata wedi ei weini â Gwrd Cnau Menyn a Pholenta Parmesan


Pwdinau


Tarten Frangipane a Gellyg wedi ei weini â Crème Fraiche a Hufen Iâ Welsh Gold

Crymbl Afal Sbeislyd a Riwbob gyda Crème Anglaise

Cacen Gaws Siocled Gwyn a Mafon wedi ei weini â Chompot Mwyar y Gaeaf

Pastai Cnau Pecan wedi ei weini â Hufen Iâ Merlyn Cream + Welsh Gold

Mille Feuille o Deisen Frau gyda Mwyar a Hufen Iâ Dyffryn Gwy

Panna cota Siocled Gwyn wedi ei weini gyda Saws Siocled Tywyll

a Banana wedi ei Charameleiddio

Pwdin Bara Croissant gyda Chwstard Chwisgi Cymreig