Mae parcio ar safle Neuadd y Ddinas yn gyfyngedig. Cynghorir ymwelwyr i ddefnyddio’r mannau parcio arddangos a thalu o amgylch Neuadd y Ddinas. Ni all Cyngor Caerdydd gadw lle i ymwelwyr oni bai bo angen trefniadau arbennig ar gyfer dadlwytho offer ac ati. (gw. map Parcio Neuadd y Ddinas). Mae parcio i bobl anabl o flaen y brif fynedfa ac mae modd mynd iddo heibio i’r bolardiau ar fynedfa’r Dwyrain.
Dylai ymwelwyr sydd â gofynion mynediad arbennig gysylltu ymlaen llaw â Neuadd y Ddinas.
Mae parcio hefyd ar gael yn Stablau’r Castell a Heol y Gogledd.
Mae meysydd parcio eraill i’w cael ar Heol y Brodyr Llwydion a Phlas Dumfries.
*Gall taliadau parcio amrywio a newid.