Fe’i cynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer cyfarfodydd y Cyngor, ac mae sawl dadl frwd wedi’i chynnal yma dros y blynyddoedd. Heddiw, gellir ei defnyddio am gynadleddau i’r wasg, trafodaethau a gaiff eu darlledu, cyfarfodydd a seremonïau priodas.
Saif y Siambr o dan gromen Neuadd y Ddinas, ac mae siâp cylch iddi a nenfwd uchel.
Mae panelau o dderw ar y waliau, gyda mewnosodiadau addurnol o gelyn, ac mae pedair colofn o farmor Breccia Eidalaidd yn cynnal y gromen. Uwch ben y colofnau ceir dau fodel efydd o longau – i’n hatgoffa mai oherwydd y dociau y tyfodd Caerdydd o gymuned fach gymharol ddinod i fod yn ddinas fawr. Erbyn dechrau’r ugeinfed ganrif, Caerdydd oedd porthladd mwyaf y byd ar gyfer allforio glo.
Cafodd seddau’r Cyngor, sydd hefyd wedi’u cerfio o dderw, eu dylunio gan benseiri gwreiddiol yr adeilad, ac maent wedi’u trefnu ar ffurf cylch. Mae cadair yr Arglwydd Faer wedi’i dyrchafu.
Caiff arfbeisiau Caerdydd eu harddangos yn y canopi uwch ben cadair y Maer. Arnynt, gwelir yr arwyddeiriau, ‘Deffro mae’n ddydd’ ac ‘Y ddraig goch ddyry cychwyn’.
Byrddau’r Meiri – Siambr y Cyngor
Wrth gerdded i mewn i’r siambr, ceir orielau i’r de ac i’r chwith. Yma, mae byrddau o dderw Cymreig hardd i’w gweld ar y waliau sy’n dangos enwau Arglwydd Feiri Caerdydd ers iddi ddod yn ddinas ym 1905 hyd at 1996.
Mae llawer o ddynion a menywod hybarch wedi gweithredu fel Maer Caerdydd yn ystod yr ugeinfed ganrif. Mae’r oriel ar ochr dde Siambr y Cyngor yn cynnwys enwau Meiri’r oes a fu – Meiri Tref Caerdydd o 1836 hyd nes i Gaerdydd ennill Statws Dinas ym 1905.
Ar hyd y coridor i Ystafelloedd Digwyddiadau A-D, gallwch weld oriel o ffotograffau sy’n portreadu’r Arglwydd Feiri diweddaraf.