Y Neuadd Farmor

Mae’r Neuadd Farmor yn ardal drawiadol a hyblyg ar lawr cyntaf Neuadd y Ddinas.

Gyda rhes o golofnau marmor Sienna a ffenestri gwydr lliw addurnol, mae’r ystafell yn gartref i lawer o eitemau o gasgliad celf Neuadd y Ddinas.

Mae’r Neuadd Farmor yn lleoliad arbennig ar gyfer seremonïau priodas, derbyniadau, cyflwyniadau, ciniawau, bwffes, arddangosiadau a llawer o ddigwyddiadau eraill. Gellir defnyddio’r Neuadd ar ei phen ei hun neu ar y cyd â’r Ystafell Ymgynnull drws nesaf. Mae gan y lleoliad drwydded ar gyfer seremonïau priodas.

Golwg 360

Capasiti:

200 ar ffurf theatr
200 derbyniad
150 gwledd
150 cinio/dawns

Dimensiynau:

Hyd: 25.9metr
Lled: 11.3metr
Uchder: 6.2metr
Maint y llawr: 293 metr sgwâr

Lawrlwythiadau sydd ar gael
DYSGWCH AM EIN HANES
Dysgwch fwy am hanes yr ystafell hon