Hanes y Neuadd Farmor

Mae rhesi o golofnau marmor Sienna godidog wedi’u gosod mewn efydd ar hyd y Neuadd Farmor.  Mae’r goleuadau hefyd wedi’u gosod mewn efydd, gyda sbotoleuadau modern ategol, sy’n adlewyrchu’r llawr marmor coeth. Mae ffenestri gwydr lliw a mowldinau addurnol o forforynion a chregyn yn ychwanegu at harddwch y Neuadd. Mae eitemau o gasgliad celf Neuadd y Ddinas i’w gweld yno, ac mae’r Neuadd Farmor yn gartref i gyfres o gerfluniau o ‘Arwyr Cymru’.   Dadorchuddiwyd y cerfluniau hyn, o farmor Serraveza, ym 1916 ac roeddent yn rhodd gan yr Arglwydd Rhondda. Gwahoddwyd awgrymiadau o bob cwr o Gymru ar gyfer testunau’r cerfluniau, ac mae pob un wedi’i gerfio gan gerflunydd gwahanol. Dadorchuddiwyd y cerfluniau gan un o arwyr yr ugeinfed ganrif, David Lloyd George, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel ar y pryd.  Mae paentiad o’r seremoni wedi’i arddangos yn y Neuadd.