Yr Ystafell Ymgynnull

Yr Ystafell Ymgynnull odidog yw ystafell fwyaf Neuadd y Ddinas, gyda lle i hyd at 500 o westeion ar gyfer cinio neu gynulleidfa o 600 ar gyfer cynhadledd.

Mae’r nenfwd addurnol hardd yn wledd i’r llygad ym mhob math o ddigwyddiad, ond gallwch hefyd gynnal cyflwyniadau sy’n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf yn yr Ystafell Ymgynnull.   Mae llwyfan yno ac mae’n ddigon hawdd trefnu llwyfannau, goleuadau, setiau a systemau arddangos ychwanegol ar gyfer yr ystafell fawr hon. Felly mae’r Ystafell Ymgynnull yn lleoliad hyblyg iawn, boed ar gyfer cinio gala, seremoni wobrwyo neu gynhadledd sy’n defnyddio technoleg o’r radd flaenaf. Rydych chi’n cyrraedd yr Ystafell Ymgynnull drwy’r Neuadd Farmor drawiadol, felly defnyddir yr ystafell hon yn aml i gynnig lluniaeth, diodydd cyn cinio neu ar gyfer arddangosiadau.

Mae’r lleoliad wedi croesawu amrywiaeth o gynadleddau rhyngwladol a digwyddiadau proffil uchel yn y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys gweithdai meddalwedd rhyngwladol, Cyfarfodydd y Cyngor Ewropeaidd ac yn ddiweddar, cafodd ei ddefnyddio fel Pencadlys Rali Cymru Prydain Fawr.

Mae gan y lleoliad drwydded ar gyfer seremonïau priodas.

Llwyfannau ychwanegol, piano cyngerdd, system arddangos (shell scheme) a bythau cyfieithu.

Golwg 360

Capasiti:

600 ar ffurf theatr
600 derbyniad
500 gwledd
400 cinio/dawns
300 ystafell ddosbarth

Dimensiynau:

Hyd: 33.7metr
lled: 16metr
uchder: 11.9metr
Maint y llawr: 539 metr sgwâr

Cyfleusterau’n cynnwys:

System PA llwyfan (areithiau yn unig), llenni blacowt a llawr dawnsio.

Lawrlwythiadau sydd ar gael
DYSGWCH AM EIN HANES
Dysgwch fwy am hanes yr ystafell hon