Hanes yr Ystafell Ymgynnull

Mae’r ystafelloedd ysblennydd hyn wedi croesawu aelodau o’r teulu Brenhinol, Penaethiaid Gwladwriaethau a diplomyddion o bob cwr o’r byd ar sawl achlysur arbennig. Caiff yr Ystafell Ymgynnull ei defnyddio gan filoedd o ddinasyddion Caerdydd am amrywiaeth o ddigwyddiadau hefyd – cyngherddau, darlithoedd, ciniawau Gala, cyfarfodydd cyhoeddus, digwyddiadau ieuenctid, yn ogystal â seremonïau gwobrwyo a chynadleddau. Mae’r ystafell yn edrych ar ei gorau o bosibl yn ystod ciniawau crand, pan fydd pum cant o westeion yn eistedd i wledda o dan y nenfwd godidog. Mae’r Neuadd Farmor a’r Ystafell Ymgynnull hefyd yn boblogaidd iawn ar gyfer cynadleddau pwysig a gall hyd at chwe chant o bobl ymgynnull yn un o’r lleoliadau mwyaf trawiadol ym Mhrydain.

Mae’r Ystafell Ymgynnull yn llawn mowldinau addurnol sy’n adlewyrchu’r cysylltiadau agos rhwng y Ddinas a’r môr, gyda morforynion, morfeirch, pysgod a physgod cragen wedi’u haddurno â haen aur.  Ar y nenfwd, sydd wedi’i addurno â gwaith plastr cain, mae tri chanhwyllyr efydd enfawr a gynlluniwyd gan y penseiri yn arbennig ar gyfer yr ystafell.   Ar ddeupen yr Ystafell Ymgynnull, mae paneli gwag ar y waliau, sy’n dal i aros am y murluniau roedd y penseiri’n bwriadu eu paentio.