Neuadd Ferrier

Mae Neuadd Ferrier yn lleoliad hwylus a hyblyg ar gyfer digwyddiadau ar lawr cyntaf Neuadd y Ddinas, ac mae wedi’i henwi ar ôl un o gyn Arglwydd Feiri Caerdydd.

Mae ganddi ei mynediad a’i chegin ei hun ac felly gellir ei defnyddio fel lleoliad ar ei phen ei hun o fewn Neuadd y Ddinas. Ar gyfer digwyddiadau mwy o faint, gellir ei defnyddio ar y cyd â’r Ystafell Ymgynnull drws nesaf a nifer o ystafelloedd llai. Mae Neuadd Ferrier yn arbennig o addas ar gyfer cyflwyniadau a gweithdai, neu gellir ei rhannu i greu cyfres o ystafelloedd mwy clyd.

Mae dwy fynedfa i Neuadd Ferrier, ac mae lifft staer wrth ymyl un ohonynt. Mae grisiau’n arwain i fyny i’r ddwy fynedfa, felly mae mynediad ar gyfer cadeiriau olwyn wedi’i gyfyngu.

Capasiti:

200 ar ffurf theatr
200 derbyniad
120 gwledd
60 cinio/dawns
60 ystafell ddosbarth 60 ystafell fwrdd

Dimensiynau:

Hyd: 20metr
lled: 7.2metr
uchder: 3.1metr
Maint y llawr: 144 metr sgwâr

Cyfleusterau’n cynnwys:

System PA

Lawrlwythiadau sydd ar gael