Eich lleoliad ar gyfer cyflwyniadau

Mae Neuadd y Ddinas yn cynnig mawredd a hyblygrwydd

Mae i Neuadd y Ddinas enw da heb ei ail fel y lleoliad i fynd iddo ar gyfer arddangosfeydd a digwyddiadau yng Nghaerdydd. O fewn muriau allanol ysblennydd Neuadd y Ddinas, yn null y Dadeni, y mae ystafelloedd urddasol o bob maint a all ateb gofynion unrhyw arddangosfa neu ddigwyddiad. Boed eich bod yn cynnal arddangosfa 3 diwrnod, angen gofod ar gyfer sesiynau ar wahân neu dderbyniad neu swper mawreddog, gall Neuadd y Ddinas ddarparu’ch holl anghenion o dan yr un to.Gall yr Ystafell Ymgynnull  fawr gynnal cynhadledd sydd â lle i 600 o bobl ac mae’r Neuadd Farmor  yn lleoliad delfrydol ar gyfer cyflwyniadau a derbyniadau. Mae’r Neuadd Isaf yn cynnig gofod arddangos hyblyg a gallwch ddewis o blith ystod o Ystafelloedd Syndicad ar gyfer eich sesiynau grŵp ar wahân. Gallwn gynnig lle i’r systemau cynadledda diweddaraf, ynghyd â chynlluniau cragen a blychau cyfieithu ar y pryd.

  • Ar gael i’w llogi drwy gydol y flwyddyn
  • Mae modd llogi’r lleoliad cyfan i chi’ch hun neu gellir cyfuno ystafelloedd mewn amrywiol ffyrdd i greu’r gofod sydd ei angen arnoch.
  • Lleoliad yng nghanol y ddinas o fewn pellter cerdded i ddewis helaeth o westyau, canolfan siopa ragorol, Castell Caerdydd, Stadiwm Principality a’r Amgueddfa Genedlaethol
  • O fewn cyrraedd rhwydd i Orsaf Drenau Caerdydd Canolog, yr orsaf fysus a Maes Awyr rhyngwladol Caerdydd.
  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gyfer trefnwyr cynadleddau hefyd ar gael gan Swyddfa Gynadleddau Caerdydd, y mae ei gwasanaeth AM DDIM yn cynnwys gwasanaeth cadw lle mewn llety ac awgrymiadau ar gyfer rhaglenni partner a rhestr o ddigwyddiadau cymdeithasol.

 

EICH DIGWYDDIAD
Talwn sylw i fanylion
Pori drwy ein horiel

O fewn muriau allanol ysblennydd yn null y Dadeni Neuadd y Ddinas y mae ystafelloedd urddasol o bob maint a all ateb gofynion unrhyw arddangosfa, derbyniad neu ddigwyddiad.

SWYDDFA CONFENSIWN CAERDYDD
Cyngor a chymorth ar gyfer eich digwyddiad busnes