Eich man cynadledda

Mae Neuadd y Ddinas yn cynnig mawredd a hyblygrwydd

Mae i Neuadd y Ddinas enw da heb ei ail fel y lleoliad i fynd iddo ar gyfer arddangosfeydd a digwyddiadau yng Nghaerdydd.  O fewn muriau allanol ysblennydd Neuadd y Ddinas, yn null y Dadeni,  y mae ystafelloedd urddasol o bob maint a all ateb gofynion unrhyw arddangosfa neu ddigwyddiad.  Boed eich bod yn cynnal arddangosfa 3 diwrnod, angen gofod ar gyfer sesiynau ar wahân neu dderbyniad neu swper mawreddog, gall Neuadd y Ddinas ddarparu’ch holl anghenion o dan yr un to.

Gall yr Ystafell Ymgynnull  fawr gynnal cynhadledd sydd â lle i 600 o bobl ac mae’r Neuadd Farmor  yn lleoliad delfrydol ar gyfer cyflwyniadau a derbyniadau. Mae’r Neuadd Isaf yn cynnig gofod arddangos hyblyg a gallwch ddewis o blith ystod o Ystafelloedd Syndicad ar gyfer eich sesiynau grŵp ar wahân. Gallwn gynnig lle i’r systemau cynadledda diweddaraf, ynghyd â chynlluniau cragen a blychau cyfieithu ar y pryd.

  • Ar gael i’w llogi drwy gydol y flwyddyn
  • Mae modd llogi’r lleoliad cyfan i chi’ch hun neu gellir cyfuno ystafelloedd mewn amrywiol ffyrdd i greu’r gofod sydd ei angen arnoch.
  • Lleoliad yng nghanol y ddinas o fewn pellter cerdded i ddewis helaeth o westyau, canolfan siopa ragorol, Castell Caerdydd, Stadiwm Principality a’r Amgueddfa Genedlaethol
  • O fewn cyrraedd rhwydd i Orsaf Drenau Caerdydd Canolog, yr orsaf fysus a Maes Awyr rhyngwladol Caerdydd.
  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gyfer trefnwyr cynadleddau hefyd ar gael gan Swyddfa Confensiwn Caerdydd, y mae ei gwasanaeth AM DDIM yn cynnwys gwasanaeth cadw lle mewn llety ac awgrymiadau ar gyfer rhaglenni partner a rhestr o ddigwyddiadau cymdeithasol.

 

Confensiwn Caerdydd
cyngor a chymorth ar gyfer eich achlysur busnes
Cynadleddau
Rydyn ni’n rhoi sylw i’r manylion