Ein hystafelloedd

7 Ystafelloedd
Y Neuadd Farmor
  • Gofod llawr 293 sq/m
  • Capasiti 150 cinio/dawns, 200 ar ffurf theatr

Mae’r Neuadd Farmor yn ardal drawiadol a hyblyg ar lawr cyntaf Neuadd y Ddinas. Gyda rhes o golofnau marmor Sienna a ffenestri gwydr lliw addurnol, mae’r ystafell yn gartref i lawer o eitemau o gasgliad celf Neuadd y Ddinas.

Ystafelloedd Syndicâd
  • Gofod llawr 29 sq m - 109 sq m
  • Capasiti 2 ystafell fwrdd, 100 ar ffurf theatr

Mae’r ystafelloedd hyn yn ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd a seminarau, neu ystafelloedd ymneilltuo ar gyfer cynadleddau neu swyddfeydd ar gyfer swyddogion mewn digwyddiadau mwy o faint.

Yr Ystafell Ymgynnull
  • Gofod llawr 539 sq m
  • Capasiti 300 ystafell ddosbarth, 600 ar ffurf theatr

Mae’r nenfwd addurnol hardd yn wledd i’r llygad ym mhob math o ddigwyddiad, ond gallwch hefyd gynnal cyflwyniadau sy’n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf yn yr Ystafell Ymgynnull.

Mynedfa

Mae’r Prif Cyntedd yn fynedfa fawreddog i ymwelwyr, gyda derbynfa, seddau cyffyrddus a dwy set o risiau’n arwain i fyny at y Neuadd Farmor.

Neuadd Ferrier
  • Gofod llawr 144 sq m
  • Capasiti 60 ystafell fwrdd, 200 theatr style

Mae Neuadd Ferrier yn lleoliad hwylus a hyblyg ar gyfer digwyddiadau ar lawr cyntaf Neuadd y Ddinas, ac mae wedi’i henwi ar ôl un o gyn Arglwydd Feiri Caerdydd.

Y Neuadd Isaf
  • Gofod llawr 595 sq m
  • Capasiti 400 ar ffurf theatr, 200 ystafell ddosbarth

Ar y llawr daear, mae mynediad y Neuadd Isaf drwy’r Brif Cyntedd.  Saif cyfres o golofnau godidog ar hyd yr ystafell, sy’n ofod hyblyg ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau.

Siambr y Cyngor
  • Gofod llawr 539 sq/m
  • Capasiti 94 seddau a 50 ychwanegol yn y galeri 

Lleolir Siambr y Cyngor o dan gromen fawreddog Neuadd y Ddinas, gan sicrhau amgylchedd crand gyda ffenestri gwydr lliw godidog, panelau o dderw wedi’i gerfio a cholofnau marmor.