Diwrnod eich priodas

Priodas fythgofiadwy

O fewn ei muriau allanol ysblennydd y mae ystafelloedd urddasol o bob maint a disgrifiad a all ateb eich holl ofynion priodasol .  Mae hyn yn cynnwys yr Ystafell Ymgynnull  helaeth sef un o’r ychydig lefydd yng Nghaerdydd â lle i hyd at 500 o westeion. Yn aml dyma’r lleoliad ar gyfer priodasau mawr lle gall gwesteion fwynhau’r ystafell foethus ac addurnedig hon. Mae’r grisiau llifol mawreddog Fictoraidd yn cynnig mynediad dramatig i’r briodferch a chefnlen ddramatig i’r briodferch, y priodfab a’r gwesteion. Mae lle gan y Neuadd Farmor  sydd wedi ei addurno â cholofnau o farmor Sienna a ffenestri lliw cain i 200 ond mater bychan yw ei osod ar gyfer llai o westeion. Mae Siambr y Cyngor  yn lleoliad trawiadol ar gyfer seremoni briodasol wrth i’r cwpwl hapus fod yn ganolbwynt sylw pawb yn yr amffitheatr fawreddog hon.

Pori drwy ein horiel

O fewn muriau allanol ysblennydd yn null y Dadeni Neuadd y Ddinas y mae ystafelloedd urddasol o bob maint a all ateb gofynion unrhyw arddangosfa, derbyniad neu ddigwyddiad.

EICH DIWRNOD ARBENNIG
Talwn sylw i fanylion

Pori drwy ein hystafelloedd

Amrywiaeth o ystafelloedd sy'n addas ar gyfer eich achlysur chi
CYNLLUNIO ARHOSIAD YNG NGHAERDYDD
Dewch o hyd i’r lleoliad perffaith ar gyfer eich arhosiad