Casgliad Celf

 

Mae Neuadd y Ddinas yn cynnwys sawl paentiad coeth. Ar hyn o bryd mae 25 yn cael eu harddangos yn yr adeilad.

Gellir gweld y casgliad celf yn y Fynedfa, y Neuadd Farmor, yr Ystafelloedd Digwyddiadau a’r coridorau i’r llawr cyntaf. Mae’r paentiadau’n deillio o ffynonellau amrywiol, gan gynnwys rhoddion preifat, rhoddion busnes a chymynroddion.

Mae casgliad celf Neuadd y Ddinas yn cwmpasu cyfnod o 150 mlynedd. Y paentiad hynaf yw “The Bay of Naples” gan John Glover (1787 – 1849), sydd yn Ystafell L ar y llawr cyntaf.

Cymynrodd Fulton

Sefydlwyd Cymynrodd Fulton ym 1907, ar gais Mrs Annie Fulton o Benarth. Hi oedd gweddw yr Henadur Andrew Fulton a oedd yn Faer ar Gaerdydd rhwng 1884 ac 1885. Yn ewyllys Mrs Fulton, nodwyd y canlynol: “Unto the Lord Mayor, Aldermen and Citizens of the City for the purpose of placing in their City Hall her oil painting of the Holy Loch, Scotland by Mr James Greenless, free of legacy duty” (Mae’r paentiad hwn i’w weld yn ystafell digwyddiadau D). Yn ogystal â’r paentiad, rhoddodd Mrs Fulton chwarter o’i hystâd i Ddinas Caerdydd, gan nodi’r canlynol: “For or towards the completion of the decoration of the interior of the City Hall, and the purchase of paintings, statuary and other works of Art”. Yn dilyn setliad yr ystâd, cafodd y Ddinas £3,327 a phrynwyd y pum paentiad canlynol:

Procession returning from Festa of the Madonna Del Marco at Naples

Ganed Penry Williams ym Merthyr Tudful ym 1798 yn fab i beintiwr tai.  Ar ôl gweithio gyda’i dad am rai blynyddoedd, aeth i ysgol yr Academi Frenhinol i astudio o dan Fuseli.  Ym 1827 symudodd i Rufain lle arhosodd nes iddo farw ym 1885.

Mae’r paentiad hwn yn nodweddiadol o chwaeth Williams am baentiadau rhamantus o fywyd yn yr Eidal.  Gyda llosgfynydd Vesuvius yn mudlosgi yn y cefndir, gwelir cert bustach wedi’i addurno i anrhydeddu gŵyl Fair a gwerinwyr mewn gwisgoedd prydferth yn dathlu drwy orymdeithio.  Dyma gampwaith Penry Williams, ac fe’i harddangoswyd yn yr Academi Frenhinol ym 1837. Dyma un o’r paentiadau gorau yng nghasgliad Neuadd y Ddinas.

The Penitent’s Return

Mae’r paentiad hwn yn cynnwys yr arysgrif canlynol:  “For every woe a tear may claim, except an erring woman’s shame.” BYRON

Mae’r ferch ifanc edifar wedi dychwelyd i ganfod hen fwthyn diffaith, tra bod ei hailymddangosiad wedi ennyn chwilfrydedd y trigolion lleol. Samuel Luke Fildes oedd un o’r artistiaid mwyaf blaenllaw o ran paentio pynciau ‘realaeth sosialaidd’, ac mae ei waith yn aml yn cydymdeimlo â thrafferthion y tlodion.

Ganed Fildes yn Lerpwl ym 1843, a dechreuodd astudio yn Ysgol yr Academi Frenhinol pan oedd yn 17. Aeth ymlaen i weithio fel darlunydd ar gyfer y cylchgrawn “The Graphic”, lle denodd ei waith sylw Charles Dickens.  O ganlyniad i hyn, darluniodd Fildes y lluniau ar gyfer “The Mystery of Edwin Drood” gan Dickens.  Roedd Fildes yn boblogaidd ac yn llwyddiannus, a hefyd yn artist portreadau nodedig.  Cafodd ei urddo’n farchog ym 1906 ac fe’i gwnaed yn KCVO ym 1918. Bu farw’r artist ym 1927.

Winter

Ar hyn o bryd mae’r paentiad wedi’i leoli yn y Neuadd Farmor a chafodd ei brynu drwy Gymynrodd Fulton.  Mae gwaith o’r fath yn adlewyrchu chwaeth boblogaidd y cyfnod Edwardaidd.
Roedd Joseph Farquharson yn artist llwyddiannus iawn ar ddiwedd Oes Fictoria ac yn ystod y cyfnod Edwardaidd. Mae hwn yn enghraifft wych o’i steil – darluniau o fywyd gwledig, yn aml o dan olau’r lloer neu, fel yn yr achos hwn, haul hwyr y gaeaf.  Câi Farquharson ei gydnabod am realaeth a manylder ei olygfeydd trawiadol yn yr eira. Cafodd ei weithiau eu copïo’n aml, felly daeth yn adnabyddus ac yn boblogaidd iawn ymysg y cyhoedd.

The Shadow

Paentiwyd ‘The Shadow’ ym 1909 ac mae’n enghraifft nodweddiadol o steil yr artist. Roedd Blair Leighton yn arbenigo mewn golygfeydd hanesyddol, yn arbennig rhai canoloesol. Fe’i ganed ym 1853 ac arddangosodd ei waith yn aml yn yr Academi Frenhinol. Mae ei waith gorau fel arfer yn dangos parau rhamantus fel y rhain. Yma, mae marchog ifanc yn mynd i ryfel er hiraeth y forwyn deg. Mae’r golau dramatig a’r realaeth ffotograffig yn golygu bod hon yn enghraifft wych o waith Blair Leighton.

The Knighting of Sir William Crossman

Dyma oedd y paentiad olaf i’w brynu drwy Gymynrodd Fulton, ac fe’i paentiwyd ym 1910. Mae’n dangos golygfa dair blynedd ynghynt, pan gafodd yr Arglwydd Faer, yr Henadur William Crossman, ei urddo’n farchog gan y Brenin Edward VII pan ymwelodd â Chaerdydd. Roedd hon yn foment bwysig i’r ardal leol, oherwydd roedd y Brenin a’r Frenhines yn y Ddinas i agor Doc y Frenhines Alexandra, sef doc olaf a mwyaf y porthladd.

Ganed yr artist William Hatherell ym 1855. Roedd Hatherell yn adnabyddus am ei baentiadau atmosfferig o bynciau llenyddol, ffigurol a hanesyddol. Mae’r dewis o bwnc yn adlewyrchu balchder anferth y Cyngor yn y digwyddiad hwn. Roedd cymeradwyaeth Frenhinol wedi’i rhoi i’r Ddinas. Bu farw’r artist yn Llundain ym 1928.