NEUADD Y DDINAS, CAERDYDD
City Hall, Cardiff
cyflwyniad LLEOLIAD CYNADLEDDAU A CHYFARFODYDD PRIODASAU YSTAFELLOEDD ARLWYO
CYSYLLTU Â NI
CASGLIAD CELF HANES MYNEDIAD ANABL CYSYLLTIADAU FFURFLEN ADBORTH
 

 

Llongyfarchiadau ar eich priodas i ddod!

Neuadd y Ddinas yw canolbwynt un o ganolfannau dinesig gorau'r byd, ardal ag adeiladau mawreddog, gerddi a rhodfeydd eang. Tu mewn i'r adeilad godidog ceir ystafelloedd cain o bob math a maint i fodloni eich holl ofynion priodasol. Mae'r rhain yn cynnwys Ystafell Gynulliad eang, prif leoliad achlysuron Cymru heb os, sy'n dal hyd at 500 o westeion. Dyma ble cynhelir digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol yn aml a cheir grisiau Fictoraidd mawreddog a Neuadd Farmor ysblennydd yn arwain ati.

 

cliciwch i drefnu priodas
   

Mae'r teulu brenhinol, gwladweinwyr ac enwogion rhyngwladol wedi mwynhau awyrgylch unigryw yr adeilad pwysig hwn fel y gallwch chithau hefyd ar gyfer yr achlysur arbennig hwnnw.

 
     
 

Mae amryw o ystafelloedd ar gael ar gyfer y seremoni a/neu'r parti priodas, â 5 neu 500 o westeion. Cliciwch yma i weld yr ystafelloedd mewn mwy o fanylder.

     
     
 
Mae Neuadd y Ddinas yn berchen i Gyngor Caerdydd ac yn cael ei reoli ganddo © Awst 2006