Mae Neuadd y Ddinas yn ganolbwynt y ganolfan ddinesig, yng nghanol y ddinas. Mae Amgueddfa a Galeri Cenedlaethol Cymru gerllaw a gellir cerdded at nifer o dirnodau'r ddinas, megis Castell Caerdydd, y Theatr Newydd a Stadiwm y Mileniwm mewn ychydig funudau, a gall y cyfan gefnogi eich digwyddiad â theithiau, perfformiadau, partïon preifat a lleoliadau ciniawa eraill.
Mae Neuadd Dewi Sant, neuadd gyngerdd cenedlaethol Cymru, gerllaw sy'n cynnig lleoliad cynhadledd ag awditoriwm â 2000 o seddau. Mae Arena Rhyngwladol Caerdydd hefyd yng nghanol y ddinas sy'n cefnogi cyngherddau a digwyddiadau mawr.
Mae canol y ddinas yn cynnig amrywiaeth o lefydd i aros o rai rhad i westai 5 seren moethus, o fewn cyrraedd i Neuadd y Ddinas.
Maer cyfuniad hwn o lefydd aros, atyniadau mawreddog a gweithgareddau eraill yn sicrhau bod Neuadd y Ddinas yn lle deniadol a chyfleus, pa bynnag ddigwyddiad y dymunech ei drefnu.