NEUADD Y DDINAS, CAERDYDD
City Hall, Cardiff
cyflwyniad LLEOLIAD CYNADLEDDAU A CHYFARFODYDD PRIODASAU YSTAFELLOEDD ARLWYO
CYSYLLTU Â NI
CASGLIAD CELF HANES MYNEDIAD ANABL CYSYLLTIADAU FFURFLEN ADBORTH
 

 

Wedi'i hadeiladu ag arddull y Dadeni Saesneg, agorwyd Neuadd y Ddinas ym 1906, blwyddyn ar ôl i Gaerdydd ennill ei statws fel dinas. Tu mewn i'r adeilad ysblennydd a gerfiwyd allan o gerrig Portland ceir ystafelloedd cain i fodloni disgwyliadau trefnwyr cynadleddau, achlysuron a digwyddiadau. Mae'r adeilad mawreddog yn cynnig lleoliad eang ar gyfer digwyddiadau mawr eto ceir ystafelloedd llai ar gyfer cynulliadau llai a sesiynau cynghrair.

 

Fodd bynnag, tu ôl i'w ffasâd mawreddog a'i hystafelloedd godidog gall Neuadd y Ddinas ddarparu ar gyfer cynadleddau modern a systemau cyfathrebu technegol.

 
     

Mae Neuadd y Ddinas yn rhyfeddol o hyblyg, lle cynhelir digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol mawreddog yn aml a fynychir gan gyfryngau'r byd. Mae'r rhain wedi cynnwys cyfarfod y Cyngor Ewropeaidd ym 1998 a fynychwyd gan bymtheg o benaethiaid taleithiau yn ddiweddar, ac yn fwy diweddar, trawsffurfiwyd Neuadd y Ddinas yn bencadlys Rali Prydain Fawr.

 
     
 

Mae gan Neuadd y Ddinas drwydded ar gyfer seremonïau priodasol â'i hawyrgylch unigryw yn sicrhau ei fod yn ddewis amlwg ar gyfer priodasau, digwyddiadau teuluol eraill, dathliadau arbennig a lletygarwch corfforaethol.

 
     

Yn Neuadd y Ddinas, gallwn sicrhau croeso cynnes, yn ogystal â gwasanaeth a chefnogaeth ardderchog gan ein Tîm Achlysuron. Ar gyfer cynadleddau, confensiynau a digwyddiadau mawr, gellir cynnig cymorth pellach, megis archebu llety a rhaglenni cymdeithasol, trwy Wasanaeth Marchnata a Thwristiaeth y Cyngor a'n partneriaid, Menter Caerdydd a Chymdeithas Gwestai.

   
^
     
 
Mae Neuadd y Ddinas yn berchen i Gyngor Caerdydd ac yn cael ei reoli ganddo © Awst 2006