NEUADD Y DDINAS, CAERDYDD
City Hall, Cardiff
cyflwyniad LLEOLIAD CYNADLEDDAU A CHYFARFODYDD PRIODASAU YSTAFELLOEDD ARLWYO
CYSYLLTU Â NI
CASGLIAD CELF HANES MYNEDIAD ANABL CYSYLLTIADAU FFURFLEN ADBORTH

'Saif Neuadd y Ddinas Caerdydd yn un o ganolfannau dinesig mwyaf ysblennydd Ewrop.'

Mae adeilad Edwardaidd Neuadd y Ddinas gyda’r mwyaf ysblennydd o’r casgliad adeiladau hwn, ond hwn yw’r pumed adeilad i'w ddefnyddio fel canolfan Llywodraeth leol. Prin yw’r wybodaeth am ‘Neuadd y Dref’ wreiddiol Caerdydd, ond safai yr ail Neuadd Dref yng nghanol Heol Eglwys Fair tan i neuadd arall gael ei chodi ar yr un safle yng nghanol y ddeunawfed ganrif. Adeiladwyd y bedwaredd Neuadd ym 1853, ar ochr orllewinol Heol Eglwys Fair, a defnyddiwyd yr adeilad hwn hyd nes yr agorwyd Neuadd y Ddinas bresennol ym 1904.

CITY HALL VISITOR INFORMATION GUIDE -pdf(1 MB)
   

‘Cardiff’s City Hall stands in what has been acclaimed as one of the finest civic centres in Europe.’

Lleolir yr adeiladau Dinesig ym Mharc Cathays, a oedd unwaith yn safle i blasty Sioraidd (1812-25), a adeiladwyd i’r Ardalydd Bute 1af. Gwerthodd y teulu Bute y 59 erw i’r dref ym 1898, am £159,000. Paratowyd cynlluniau ar gyfer yr adeiladau newydd, gyda’r Neuadd Dref newydd yn ganolbwynt (am nad oedd Caerdydd yn ddinas yn y cyfnod hwnnw).

 

 

 
 

Y cwmni a gynlluniodd yr adeiladau oedd Lanchester, Stewart a Rickards, sef enillwyr y gystadleuaeth bensaernïol ar gyfer y gwaith comisiwn mawreddog hwn. Gyda chyllideb o £125,000, dechreuodd gwmni lleol E. Turner and Sons y gwaith adeiladu ym 1900, a gorffennwyd y gwaith ym 1904.

 
     

Dyluniwyd y dodrefn a’r mân daclau hefyd yn arbennig ar gyfer yr adeilad, ac agorwyd Neuadd y Ddinas yn swyddogol ym 1905, pan enillodd Caerdydd ei statws Dinas.

Pensaernïaeth y Dadeni Ffrengig a’r Seisnig yw’r ysbrydoliaeth y tu ôl i’r dyluniad, ond mae hefyd yn llawn naws a hyder y cyfnod Edwardaidd, pan oedd llewyrch Caerdydd a’r diwydiant glo ar ei anterth.

 
     

‘Mae’r adeiladau o garreg Portland, â’u cerfwaith cain, wedi’u gwahanu gan rodfeydd coed, llydan a mannau agored gwyrdd.’

Y twr cloc 194 troedfedd yw nodwedd mwyaf amlwg Neuadd y Ddinas, ynghyd â draig Cymru ar ben y gromen, a gerfluniwyd gan HC Fehr.

 
     
 

Y Tŵr Cloc

 
   

Y Twr Cloc efallai yw nodwedd bensaernïol fwyaf amlwg Neuadd y Ddinas, yn amghymesurol a beiddgar ac yn dirnod hoff i drigolion Caerdydd.

 
   

Mae ffrâm y cloc, sy’n dal y peirianwaith, yn mesur 5’10” ac wedi’i wneud allan o un darn solet o haearn bwrw, sy’n sicrhau ei fod yn gwbl gadarn. Dyluniad ‘disgyrchiant’ tair coes yw’r gollyngiad, wedi’i wneud o fetel gwn. Mae pedwar deial aur deuddeg troedfedd yn dangos yr amser, un ar bob wyneb y twr.

     

Mae’r Cloc ei hun yn ddyluniad bras pedwar wyneb, a ganodd am y tro cyntaf erioed ar ddydd Gwyl Dewi, 1905.

Mae’r clychau eu hunain wedi’u gwneud o gopr a thun pur, pob un ag arwyddair engrafedig arni. Mae arwyddeiriau Cymraeg ar gyfer cloch yr awr, yn ogystal â' chlychau'r ail a'r bedwerydd chwarter, ac arwyddair Saesneg i’r gyntaf a’r drydedd.

 
     

Mae cloch y cloc yn taro ar yr awr, a clychseiniau Westminster yn canu bob chwarter awr ar y pedair ‘cloch chwarter’.

Dyma'r arwyddeiriau:

Cloch yr awr: 'Y gwir yn erbyn y byd'

Chwarter 1af - 'I mark time, dost thou?'
2il Gwarter - 'Duw a phob daioni'
3ydd Chwarter - 'Time conquers all and we must time obey'
4ydd Chwarter - 'A gair Duw yn uchaf'

 

 
     
     

Prif Ffenestr Siambr y Cyngor, â cherfluniaeth goffa bob ochr iddi

Mae prif ffenestr Siambr y Cyngor uwchben y portico. Bob ochr i hon ceir cerfluniaeth goffa sy’n dangos tair afon Caerdydd yn llifo i’r môr; sef y Taf, y Rhymni a’r Elái. Yn uchel ar ochr orllewinol y ffasâd mae grwp yn cynrychioli ‘Gwyddoniaeth ac Addysg’ gan D McGill. Ymhlith y grwpiau eraill mae ‘Cerdd a Barddoniaeth’ a ‘Masnach a Diwydiant’ gan Paul Montford, ac ‘Undod a Gwladgarwch y Cymry’ gan Henry Poole.

 
     

Cynhlaiwyd gwaith i adfer y ffynnon ac ychwanegu goleuadau opteg ffibr cyn ymweliad y Frenhines ar gyfer dathliadau’r Jiwbilî Aur ym 2002.

Ychwanegwyd y ffynnon a’r pwll o flaen y portico ym mis Gorffennaf 1969, i ddathlu Arwisgo’r Tywysog Siarl yn Dywysog Cymru. Mae’r ffynnon ar ochr orllewinol y pwll yn cynrychioli plu Tywysog Cymru; a cheir llen addurnol o bedair ffrwd i’r dwyrain.

 
     

Arfbais o wehyddiad cywrain ar garped y Cyntedd

Mae ysblander allanol Neuadd y Ddinas yn paratoi’r ymwelydd ar gyfer addurniadau coeth yr ystafelloedd Edwardaidd tu mewn, â phob ystafell boed yn fawr neu fach yn gwbl gymesur. Mae’r portico yn arwain i’r prif gyntedd a’r dderbynfa. Mae grisiau mawreddog ar y ddwy ochr, â chanllaw efydd addurnol, yn arwain i’r ystafelloedd croesawu uwchben. Ar u o’r grisiau, saif cofeb i’r Capten Robert Scott a’i gymdeithion dewr a hwyliodd o Gaerdydd ar fwrdd llong y Terra Nova, ar eu taith drychinebus i Begwn y De ym 1910. Mae ail gofeb efydd arall ar y grisiau arall, i gofio’r bardd a’r llenor Sir Edward Reed, a fu hefyd yn Aelod Seneddol dros Gaerdydd.

 
     
 

Ewch ymlaen i fynyr grisiau i fwynhau rhan o adeilad Neuadd y Ddinas sy'n creu argraff ddofn ar bob ymwelydd...

 
     
     
 

Y Neuadd Farmor

 

Mae’r Neuadd Farmor yn llawn colofnau ysblennydd o farmor Sienna wedi’u mowntio ar efydd. Defnyddir efydd hefyd yn y goleuadau, sydd bellach â sbotoleuadau modern yn ychwanegol atynt er mwyn adlewyrchu sglein y llawr o farmor cain. Mae’r ffenestri gwydr lliw a cherfluniau addurnol y môr-forynion a chregyn yn addurno’r ystafell brydferth hon ymhellach. Arddangosir eitemau o gasgliad celfyddyd Neuadd y Ddinas yma, yn ogystal â cherfluniau o ‘Arwyr Cymru’. Dadorchuddiwyd y cerfluniau hyn o farmor Serraveza am y tro cyntaf ym 1916, yn rhodd gan Arglwydd Rhondda. Gofynnwyd am awgrymiadau gan bobl Cymru ar gyfer y testunau, ac mae pob cerflun yn waith cerflunydd gwahanol. Dadorchuddiwyd y cerfluniau gan arwr o’r ugeinfed ganrif, David Lloyd George, a oes yn Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel ar y pryd. Mae paentiad o’r seremoni i’w weld yn y Neuadd.

 
     
Mae’r Neuadd Farmor yn drwyddedig i gynnal priodasau, mewn amgylchedd godidog
Ceir addurniadau môr-forynion a chregyn ar hyd y fynedfa i Siambr y Cyngor a’r Ystafell Gynnull

Ewch trwy'r drysau ym mhen gogleddol y Neuadd Farmor i weld...

 
     
 

 

 
     
     
 

Yr Ystafell Gynnull

 

Mae’r ystafell ysblennydd hon wedi croesawu’r teulu Brenhinol, Penaethiaid Gwladol a diplomyddion o bob cwr o’r Byd ar sawl achlysur mawreddog. Defnyddir yr Ystafell hefyd gan filoedd o ddinasyddion Caerdydd ar gyfer amryw o ddigwyddiadau - cyngherddau, darlithoedd, ciniawau Gala, cyfarfodydd cyhoeddus, digwyddiadau ieuenctid, yn ogystal â seremonïau gwobrwyo a chynadleddau. Efallai bod yr ystafell yn creu’r argraff fwyaf ar adeg cinio mawreddog, pan fydd hyd at bum cant o westeion yn gallu mwynhau ciniawa o dan y nenfwd ysblennydd. Mae’r Neuadd Farmor a’r Ystafell Gynnull yn boblogaidd ar gyfer cynadleddau o bwys, lle gall hyd at chwe chant o bobl fwynhau rhwysg un o leoliadau crandiaf Prydain.

 
     

Mowldinau addurnol o fywyd y môr

Ceir cyfoeth o fowldinau addurnol yma yn yr Ystafell Gynnull, i’n hatgoffa o gysylltiadau agos y Ddinas â’r môr, a cheir toreth o fôr-forynion, ceffylau’r môr, pysgod a physgod cragen euraid. Yn crogi o’r nenfwd o waith plastr coeth mae tri chanhwyllyr anferthol efydd, wedi’u dylunio’n arbennig gan y penseiri ar gyfer yr ystafell hon. Ar y naill ben a’r llall, mae’r paneli’n aros o hyd am rywun i beintio’r murluniau.

 
     
 

Gyferbyn â'r Neuadd Farmor mae ….

 
     
     
 

Siambr y Cyngor

 

Dyluniwyd y Siambr yn wreiddiol i gynnal cyfarfodydd y Cyngor, a chlywyd nifer o ddadleuon ffyrnig yma dros y blynyddoedd. Defnyddir hi heddiw ar i nifer o ddibenion eraill, gan gynnwys cynadleddau i'r wasg, dadleuon ar y teledu, cyfarfodydd a seremonïau priodas.

 
     

Y ffenestr gwydr lliw bwaog yw canolbwynt yr ystafell hon, sy’n dyddio nôl i 1905, ac yn darlunio ‘Y Fonesig Cymru’ a bywyd masnachol y genedl.

Mae'r Siambr wedi'i lleoli o dan gromen Neuadd y Ddinas ac adlewyrchir hyn gan y nenfwd uchel, crwn.

 
     
 

Mae'r paneli wedi'u gwneud o dderw a'u haddurno â; dail celyn, ac mae pedwar piler anferthol o farmor Breccia o'r Eidal yn cynnal y gromen. Uwchben y colofnau mae dau fodel efydd o longau - sy'n ein hatgoffa mai'r dociau helpodd Caerdydd i ddatblygu o gymuned fach gymharol ddibwys yn Ddinas fawreddog. Erbyn dechrau'r ugeinfed ganrif, Caerdydd oedd y porthladd allforio glo mwyaf yn y Byd.

 
     

Mae’r blaenlythrennau VC sy’n addurno’r waliau yn golygu ‘Villa Cardiff’. Mae hyn yn ein hatgoffa y gellir olrhain tarddiad y Ddinas bron 2000 fil o flynyddoedd yn ôl i adeg Meddiannaeth y Rhufeiniaid.

Dyluniwyd seddi'r Cynghorwyr, o dderw hefyd, gan benseiri gwreiddiol yr adeilad, ac maent wedi'u trefnu mewn cylch. Gosodwyd cadair yr Arglwydd Faer uwchlaw'r gweddill.

Gwelir arfbeisiau Caerdydd yn y canopi uwchben cadair yr Arglwydd Faer. Gellir darllen yr arwyddeiriau 'Deffro mae'n ddydd' ac 'y ddraig goch ddyry cychwyn'.

 
     
 

Siambr y Cyngor – Byrddau’r Maer

 
 

Mae galerïau ar y chwith ac ar y dde wrth i chi fynd i mewn i’r Siambr. Yma, mae’r waliau o dderw cain Cymru, a rhestrir, yn nhrefn amser, enwau’r Arglwydd Feiri ers i Gaerdydd gael statws Dinas ym 1905 tan 1996.

 
     
 

Bu Caerdydd yn ffodus i gael cymaint o ddynion a menywod arbennig yn Faer trwy gydol yr ugeinfed ganrif. Yn y galeri ar y dde i Siambr y Cyngor y nodir enwau’r genhedlaeth flaenorol – Meiri Tref Caerdydd o 1836 tan y dyfarnwyd y statws Dinas ym 1905.

 
     
 

Ar hyd y coridor i Ystafelloedd Achlysur A–D, gwelir oriel ffotograffau’r Arglwydd Feiri diweddar.

 
     
     
   
^
   
 
Mae Neuadd y Ddinas yn berchen i Gyngor Caerdydd ac yn cael ei reoli ganddo © Awst 2006