| |
 |

Neuadd y Ddinas yw canolbwynt un o Ganolfannau dinesig gorau'r byd, ag adeiladau trawiadol, gerddi wedi'u tirlunio a rhodfeydd coediog.
Tu mewn i adeilad Dadeni godidog Neuadd y Ddinas ceir ystafelloedd cain o bob maint i fodloni unrhyw gynhadledd, digwyddiad neu ofynion achlysuron.
Mae'r adeilad mawreddog hwn yn cynnig lleoliad eang ar gyfer digwyddiadau mawr eto ceir ystafelloedd llai ar gyfer cynulliadau llai a sesiynau cynghrair. Gall yr ystafell Gynulliad eang gynnal cynhadledd ar gyfer 600 o gynrychiolwyr ac mae'r Neuadd Farmor cain yn berffaith ar gyfer cyflwyniadau a phartïon. Gellir ei logi trwy gydol y flwyddyn, mae Neuadd y Ddinas hefyd yn cynnig mynediad da i gadeiriau olwyn.
|
|
| |
Tu ôl i'w ffasâd godidog, mae Neuadd y Ddinas yn rhyfeddol o hyblyg a gall ddarparu ar gyfer cynadleddau modern a systemau cyfathrebu technegol.
|
 |
 |
|
|
Mae'r lleoliad wedi croesawu amrywiaeth o gynadleddau rhyngwladol a digwyddiadau proffil uchel dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys gweithdai meddalwedd rhyngwladol, Cyfarfodydd Cyngor Ewropeaidd ac yn fwy diweddar Pencadlysoedd Rali Cymru DU.
|
|
| |
|
Wedi'i lleoli yng nghanol y ddinas, bydd eich gwesteion o fewn cerdded i amrywiaeth eang o westai, canolfan siopa ardderchog, Castell Caerdydd, Stadiwm y Mileniwm, Galeri Cenedlaethol Cymru a phrif orsafoedd trên a bysus Caerdydd.
|
|
| |
|
|
| |
Yn Neuadd y Ddinas, gallwn sicrhau croeso cynnes, yn ogystal â gwasanaeth ardderchog a chefnogaeth lawn gan ein Tîm Achlysuron. Mae cymorth ychwanegol i drefnwyr cynadleddau hefyd ar gael gan Ganolfan Gynhadledd Caerdydd, â'r gwasanaeth yn cynnwys gwasanaeth archebu llety, cyngor lleoliad ac awgrymiadau ar gyfer rhaglenni partner a theithlenni cymdeithasol. Dewiswch y lleoliad hwn ar gyfer eich achlysur neu gynhadledd a gallech fod yn hyderus y bydd yn ddigwyddiad y bydd pawb yn ei gofio.
|
|
| |
|
|
| |
| Mae Neuadd y Ddinas yn berchen i Gyngor Caerdydd ac yn cael ei reoli ganddo © Awst 2006 |