
Yr Ystafell Gynulliad godidog yw'r ystafell fwyaf yn Neuadd y Ddinas, sy'n dal hyd at 500 o westeion am ginio neu 600 o gynrychiolwyr am gynhadledd.
Mae'r nenfwd addurnedig yn darparu canopi hyfryd ar gyfer pob math o ddigwyddiadau, ond gan guddio'r ffaith y gall yr Ystafell Gynulliad hefyd gynnal y cyflwyniadau mwyaf technegol. Darperir llwyfan a gellir darparu llwyfan ychwanegol, golau, setiau a systemau arddangos yn rhwydd yn yr ystafell eang hon. Felly mae'r Ystafell Gynulliad yn lleoliad hyblyg, ar gyfer cinio gala, seremoni wobrwyo fawreddog neu gynhadledd fodern. Mae mynediad i'r Ystafell Gynulliad trwy'r Neuadd Farmor cain, felly defnyddir yr ystafell hon yn aml ar gyfer lluniaeth, diodydd cyn-cinio neu arddangosfeydd.